P-05-746 Cludiant Ysgol am Ddim i Holl Blant Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Griffiths ar ôl casglu 194 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwyf yn cychwyn y ddeiseb hon i holl blant Cymru gael cludiant am ddim i'r ysgol ac oddi yno, lle maent yn byw yn y dalgylch.
Gwybodaeth ychwanegol
Er enghraifft, oherwydd toriadau Llywodraeth y DU i gyllid y sector cyhoeddus a'r angen i'r cyngor wneud arbedion sylweddol o ganlyniad i hynny, mae cyngor Rhondda Cynon Taf bellach yn dymuno codi tâl o £285 y plentyn bob blwyddyn o fis Medi 2016 am eu cludo i'r ysgol ac oddi yno neu £95 i'r rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim. Gellid gwneud toriadau mewn mannau eraill e.e. a oes gwir angen planhigion yn y gymuned?
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pontypridd
· Canol De Cymru